Wel dyma hwy'r gadwedig hil,
A gadwodd ar y llwybr cul;
Trwy fôr o wae,
trwy 'storm o wynt,
Y buont hwy yn teithio gynt.
Hwynt-hwy gas heddwch gan y Tad,
Hwynt-hwy a gànwyd yn y gwa'd;
Hwynt-hwy yw'r lu
sy' oddeutu'r fainc,
Yn canu'r waredigol gainc.
Eu dagrau oll a sychwyd ffwrdd,
Galar a thristwch
byth nis cwrdd;
Ni ddaw marwolaeth
mwy na phoen,
I ŵydd y croeshoeliedig Oen.
Priod-ferch Iesu yw y rhai'n,
A wisgwyd oll â lliain main;
Yn edrych ar ei wedd bob awr,
Yn nghanol y gogoniant mawr.
Coronau ar eu penau gaer,
Ac yn eu dwylaw d'lynau aur;
Yn canu Aleluia'n hy',
Nes datsain yr holl nefoedd fry.
Gwnfyd f'ai 'mhlith
y miloedd myrdd,
Sy'n awr yn gwisgo y palmwydd gwyrdd;
O Arglwydd da, dywed a ga'i
I fod yn un o'r dysglaer rai?
William Williams 1717-91Aleluia 1749 Tôn [MH 8888]: Savoy (<1811)
gwelir: Rhan II - Yno y mae fy Mrenhin mawr Rhan III - O flaen y fainc mil miloedd mae Rhan IV - Yno mae'r apostolion mawr |
See here the saved race,
That he kept on the narrow path;
Through a sea of woe,
through a storm of wind,
They were once travelling.
They, they got peace from the Father,
They, they were bleached in the blood;
They, they are the host
who are around the throne,
Singing the deliverance strain.
'Tis their tears that were all dried away,
Lamenting and sadness
they shall never meet;
Neither death nor pain
shall come any more,
To the presence of the crucified Lamb.
The bride of Jesus are these,
Who were all dressed in fine linen;
Looking upon his face every hour,
In the midst of the great glory.
Crowns on their heads there shall be,
And in their hands harps of gold;
Singing Alleluia boldly,
Until all heaven above resounds.
Blessed it would be amongst
the myriad of thousands,
Who are now wearing the green palms;
O good Lord, tell whether I shall get
To be one of the radiant ones?
tr. 2024 Richard B Gillion.
|
|